zeno
Create a Station
Explore
Religious
Music
News
Podcasts
Bible
By Genre
By Location
By Language
Download App
Toggle Sidebar
zeno
andybmedia
Rhaglen Cymru
History
TV & Film
Performing Arts
Welsh
Andy Bell a’i westeion yn dathlu darlledu Cymraeg a Chymreig.
Y bobl, y rhaglenni, y dylanwad.
rhaglencymru@hotmail.com
Website
Episodes
100
10 April 2026
Pwysigrwydd dysgu
Y bennod ail-wampio olaf ... am y tro!Hanes y rhaglenni dysgu ar radio a theledu dros y blynyddoed a'u heffeithiolrwydd + Aran Jones o 'Say Something In' yn trafod y weithred o ddysgu iaith a tharged y miliwn o siaradwyr Cymraeg.https://www.saysomethingin.com/cyTro nesaf fe fydd Andy yn ôl o'r holidês yng Nghymru (a Lloegr).rhaglencymru@hotmail.com
25 min
03 April 2026
Andy ac Alexandra Road
Pennod ail-wampio arall wrth i Andy sôn am ei gyfnod gyda'r BBC yn ei swyddfeydd yn Heol Alecsandra Abertawe - adeilad a gaewyd y llynedd ar ddiwedd degawdau o ddarlledu.Stori bersonol a hanes corfforaethol a geir!Fe fydd Andy yn ôl o'i wyliau cyn hir.rhaglencymru@hotmail.com
20 min
27 March 2026
Ar drothwy etholiad
Pennod 'ail-wampio' arall, y tro hwn tipyn o hanes am ddarlledu etholiadaol a sgwrs yng nghwmni'r Athro Richard Wyn Jones am ei brofiadau o nosweithiau hir mewn stiwdio.Mae Richard yn bennaeth Canolfan Llywodraethiant Cymru - https://www.cardiff.ac.uk/cy/wales-governance-centrerhaglencymru@hotmail.comCerddoriaeth gloi: Arwyddgân rhaglenni etholiadol y BBC - 'Arthur' gan Rick Wakeman...
33 min
25 March 2026
Byrbod y BBC
Yn y bennod fer hon, Andy Bell yn trafod penodiad Matt Brittin fel pennaeth newydd y BBC.Heriau A dyletswyddau i’r dyn a oedd yn rhan o dim rheoli Google.rhaglencymru@hotmail.com
5 min
20 March 2026
Cymraeg o'r Ynys Werdd
Cyfres 'Ail Wampio' yn dechreu gyda gwers hanes am ddarlledu cynnar yn Iwerddon - pennod sydd wedi derbyn enwebiad gan yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd 2026.Mae Raidió Teilifís Éireann yn dathlu ei ganmlwyddiant eleni ... ac yr oedd y Gymraeg yn rhan o'r hanes hwnnw.Dr Ffion Owen yw gwestai Andy Bell mewn trafodaeth am ddarllediad arbennig ar Fawrth y 4ydd, 1927.Y perfformwyr oedd y Brodyr Francis a...
34 min
18 March 2026
Byrbod Berkshire
Ymateb sydyn i ddwy stori ym mhapurau Llundain heddiw (Mawrth 18)‘Byrbryd’ = snack felly ‘byrbod’ am bodlediad sydyn o lai na 5 munud a recordwyd yn Berkshire
4 min
13 March 2026
Y digidol a'r dyfodol
Pennod amrywiol A chyffrous!!Aled Jones o'r Y Pod Dot Cymru yw'r gwestai mewn 'Sgwrs Fawr' arall. Ble mae'r digidol yn sefyll ar y tirwedd cyfryngol gyda dyfodol S4C a'r BBC dan y chwyddwydr?Hefyd, mae Aled yn sôn am fenter newydd: Gwobrau Podlediadau Cymraeg - https://ypod.cymru/gwobrauMae'na sylw hefyd i ymateb S4C i'r ymgynghoriad ar Adolygiad Siarter y BBC....
35 min
12 March 2026
Wedi'i enwebu!!!
Dyma un o ddwy bennod 'Rhaglen Cymru' sydd wedi eu henwebu ar gyfer Gŵyl Cyfryngau Celtaidd 2026!!!https://www.celticmediafestival.co.uk/nominees Mae'r bennod hon am chwerthin ... a ydy'r Gymraeg yn ddoniol?Yr awdur Mike Parker yn trafod agweddau tuag ati gan raglenni comedi Seisnig ar y radio a theledu.Fe gewch glywed enghreifftiau o "ffraethineb" dros y blynyddoedd hefyd!!Mike yw awdur...
38 min
05 March 2026
Gwleidyddiaeth a'r cyfryngau
Pennod hir AC amrywiol.Gweithgareddau PEDAIR plaid wrth i ymgyrch etholiad Senedd Cymru boethi - oes 'na sôn am faterion cyfryngol? Sylw hefyd i ymateb y BBC i'r papur gwyrdd ar ddarlledu cyhoeddus - 'BBC i Bawb'.Ac fel cyd-bwysedd i'r areithio ac ati, 'Y Sgwrs Fawr' ddiweddara - Carl Morris o Gymdeithas yr Iaith yn cynnig syniadau ar gyfer dyfodol cyfryngau Cymraeg.Gwrandewch, rhannwch,...
48 min
27 February 2026
Dathlu Dewi
Cyfle i nodi hanes Gŵyl Ddewi blwyddyn arbennig iawn.Andy yn olrhain hanes yr allbwn radio a theledu 1958 ynghyd â'i gyd-destun.Roedd y diwrnod ei hunan bach yn siomedig o ran cynnwys, ond o fewn dyddiau daeth rhaglen Gymraeg syfrdanol o lwyddiannus i deledu'r DU - 'Gwlad Y Gân'.A'r gân ar ddechreu'r pod? Neb llai na Dominico Modugno yn canu 'Nel Blu Dipinto Di Blu' AKA...
33 min