Skip to content
zeno
Create a Station
Explore
Podcasts
Audiobooks
Bible
By Genre
By Location
By Language
Religious
Music
News
Download App
Opens in a new window
Toggle Sidebar
zeno
Cynan Anwyl
'Di'r helmed yn ffitio?
Football
Welsh
Podlediad Cymraeg sy'n ceisio esbonio bob dim Pêl-droed Americanaidd mewn ffordd syml ac anffurfiol.
Cyflwyniad Cymraeg i'r NFL.
Website
Episodes
Episodes
29
16 October 2026
Pen 14 - GEM GORAU YN HANES NFL LLUNDAIN, ATEB CWESTIYNAU CHI, EDRYCH YMLAEN I WYTHNOS 06
Yn y bennod yma dwi'n dadansoddi wythnos 05 o'r NFL wrth edrych ar y timau a wnaeth dal fy sylw, am y gorau neu gwaethaf. Fyddai hefyd yn adrodd fy hanes yn Llundain ar ôl gwylio gêm Yr Eagles yn erbyn Y Jags. Dwi hefyd yn ateb cwpl o gwestiynau gan y chi ac yna dwi'n edrych ar y gemau gorau i'w gwylio yn ystod wythnos 06.
52 min
10 October 2026
Pennod 13 - PARATOI AR GYFER LLUNDAIN, DADANSODDI WYTHNOS 04, GEMAU GORAU WYTHNOS 05
Yn y bennod yma dwi'n dadansoddi wythnos 04 o'r NFL wrth edrych ar y timau a wnaeth dal fy sylw, am y gorau neu gwaethaf. Yna dwi'n edrych ar y gemau gorau i'w gwylio wythnos 05.
48 min
18 September 2026
Pennod 12 - DADANSODDI WYTHNOS 01, CHIEFS I'R SUPERBOWL, TIMAU WNAETH DAL FY SYLW A GEMAU I GANOLBWYNTIO AR YN WYTHNOS 02
Yn y bennod yma dwi'n dadansoddi wythnos gyntaf yr NFL tymor yma wrth edrych ar y timau wnaeth dal fy sylw (yn dda neud ddrwg). Dwi hefyd yn edrych ar gemau penodol ddylwn ni gyda chanolbwyntio ar yn ail wythnos yr NFL.
1 h 1 min
16 September 2026
Pennod 11 - CYMRO YN CHWARAE'R GEM COLEGOL YN AMERICA, JACOB HATHAWAY YN YMUNO, PROFIAD YN AMERICA, BYWYD FEL NFL FREE AGENT
Yn y bennod yma dwi'n ffodus iawn i cael cwmni Jacob Hathaway, Cymro aeth i America a chwarae Pêl-droed Americanaidd ar y lefel golegol yn Tennessee. Fydd y ni'n trafod ei brofiad yn America, chwarae gyda athletwyr sydd wedi mynd mlaen i'r NFL ac ei blaniau fel NFL Free Agent.
1 h 3 min
11 September 2026
Pennod 10 - MAE'R NFL YN ÔL! RHAGDYBIO'R WYTHNOS CYNTAF O'R NFL, ATEB CWESTIYNAU CHI, BE YDW I WEDI BOD YN NEUD YN DDIWEDDAR?
Yn y bennod yma dwi'n edrych ymlaen tuag at gemau'r wythnos cyntaf o'r NFL ac yn dyfalu pwy fydd yn fuddugol ym mhob gêm. Dwi'n ateb cwestiynau chi ac yna yn mwydro am sut bethau dwi wedi bod yn neud yn ddiweddar gan gynnwys gêm colegol Dulyn.
1 h 6 min
19 August 2026
Pennod 09 - GWOBRAU PODLEDIADAU CYMRAEG, ATEB CWESTIYNAU CHI, DADANSODDI'R GEMAU PRESEASON
Yn y bennod yma dwi'n siarad am rhai o gemau preseason yr NFL a chwaraewyr penodol fel Fernando Mendoza a Jeremiyah Love. Dwi'n ateb eich cwestiynau chi ac yn siarad am lwyddiant diweddar y bodlediad yn yr Eisteddfod ac yn Gwobrau Podlediadau Cymraeg gan Y Pod Cymru.
1 h 3 min
09 August 2026
Cyfres 02 Pennod 08 - HAYDN YEOMANS YN YMUNO, SGWRSIO AM HANES COBRAS CAERDYDD, HANES CHWARAE AR Y LEFEL UCHAF YM MHRIFYSGOLION PRYDAIN, SUT HWYL CEITH Y DOLPHINS TYMOR YMA?
Yn y bennod yma dwi'n ffodus iawn i fod gyda Haydn Yeomans, llywydd Cobras Caerdydd a chwaraewr i Rhyfelwyr De Cymru. Dwi'n holi Haydn amdan ei brofiad yn chwarae ac yna yn holi sut hwyl ceith ei Miami Dolphins yn yr NFL tymor yma.
58 min
29 July 2026
Cyfres 02 Pennod 07 - IOAN FURNHAM YN YMUNO, CHWARAE YN ABERTAWE A BRUNEL, HYFFORDDI YNG NGHYMRU AC HANES YR EAGLES.....ETO
Yn y bennod yma dwi'n ffodus iawn i fod gyda Ioan Furnham, gyn-chwaraewr y Swansea Titans a Brunel Burners. Dwi'n holi Ioan amdan ei brofiad yn chwarae ar hyd pob lefel yn yr wlad gan gynnwys chwarae i tîm rhyfelwyr De Cymru. Yna i gloi y bennod, dwi'n holi Ioan amdan ei Eagles a sut hwyl mae o'n meddwl y cawn nhw tymor yma.
1 h 18 min
15 July 2026
Cyfres 02 Pennod 06 - AARON DONALD NOL YN YR NFL, CHWARAEWYR GYDA'R MWYAF I BROFI, GWOBRAU PODLEDIADAU CYMRAEG
Yn y chweched bennod o'r bodlediad dwi'n cyfri'r dyddiau tan gychwyn y tymor trwy edrych ar y newyddion diweddaraf o'r NFL, gan gynnwys rhestru'r chwaraewyr dwi'n credu sydd gyda'r mwyaf i brofi tymor nesaf. Mae gen i fach o newyddion da i rannu hefyd o'r gwobrau podlediadau Cymraeg.
48 min
20 May 2026
Cyfres 02 Pennod 05 - YR OCTAGON KNIGHTS, PÊL-DROED AMERICANAIDD YNG NGHYMRU, GWILYM EVANS YN YMUNO
Yn y bumed bennod o "Di'r Helmed yn Ffitio?", dwi yng nghwmni Gwilym Evans, gyn-chwaraewr Yr Octagon Knights. Mi fyddai yn holi Gwilym amdan ei hanes yn chwarae yng Nghaernarfon a'i gysylltiad teuluol yn Seattle.
58 min