Y Golau: Dŵr
06 November 2025

Y Golau: Dŵr

Ar Y Soffa

About
Un arall o gyfresi trosedd S4C sydd dan y chwyddwydr y mis yma, sef Y Golau: Dŵr.

Mae’n dilyn stori Caryl Hughes, y myfyriwr prifysgol sy’n astudio newyddiaduraeth, ac sydd nôl yn Llanemlyn ar drywydd stori am gronfa ddŵr yr ardal.

Yn ôl Kate Woodward, mae yma gyswllt difyr Cymreig rhwng y gyfres â ffilm Yr Ymadawiad, cyfresi Pen Talar ac Under Salt Marsh, a hyd yn oed Pobol y Cwm yn ddiweddar... tybed beth yw hynny? Ac ydy’r gyfres yma’n llwyddo i blesio Kate a Gwilym? 

Gwrandwch ar bodlediad Ar y Soffa i glywed mwy.